BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> <!DOCTYPE html PUBLIC "-//W3C//DTD XHTML 1.0 Transitional//EN" "http://www.w3.org/TR/xhtml1/DTD/xhtml1-transitional.dtd"> <html lang="en" xml:lang="en" xmlns="http://www.w3.org/1999/xhtml"> <HEAD> <title lang="cy" xml:lang="cy">Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2009 No. 1352 (Cy. 128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091352_we_1.html

[New search] [Printable version] [Help]


 

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2009

Gwnaed

2 Mehefin 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Mehefin 2009

Yn dod i rym

12 Hydref 2009

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2009 ac maent yn dod i rym ar 12 Hydref 2009.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999

2.–(1) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999(3) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o "the 1988 Act".

(3) Yn rheoliad 2(2)(b), yn lle'r geiriau "section 218(2) of the 1988 Act", rhodder y geiriau "section 132(1) of the Education Act 2002(4)".

(4) Yn lle rheoliad 5(2)(a), rhodder –

"(a) the person´s employment as a teacher is restricted or prohibited as a result of a direction under section 142 of the Education Act 2002 or the person is barred from regulated activity relating to children within the meaning of section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006(5);".

(5) Yn lle rheoliad 10(2)(a), rhodder –

"(a) the person´s employment as a teacher is restricted or prohibited as a result of a direction under section 142 of the Education Act 2002 or the person is barred from regulated activity relating to children within the meaning of section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006;".

(6) Yn yr Atodlen –

(a) yn Rhan 1, hepgorer y cofnod "University and College Union"; a

(b) yn Rhan 2, yn lle "Parent Teacher Associations of Wales" rhodder "National Confederation of Parent Teacher Associations", yn lle "Independent Schools Information Service Wales" rhodder "Independent Schools Council" ac ar ôl y cofnod sy'n dwyn y rhif 30 ychwaneger "31. University and College Union".

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Mehefin 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999, fel y'u diwygiwyd, ("Rheoliadau 1999") yn darparu ar gyfer cyfansoddiad Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1999 a hynny'n bennaf oherwydd bod darpariaethau Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi dod i rym.

Mae rheoliad 5 o Reoliadau 1999 wedi'i ddiwygio fel na fydd person sydd wedi'i wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy'n ymwneud â phlant o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn gymwys i fod yn aelod o'r Cyngor (p'un ai drwy benodiad neu etholiad) nac i bleidleisio mewn etholiad.

Mae rheoliad 10 o Reoliadau 1999 wedi'i ddiwygio fel bod aelod o'r Cyngor, os yw wedi'i wahardd felly, yn peidio â dal ei swydd.

Mae'r diwygiadau eraill sydd wedi'u gwneud gan y Rheoliadau hyn –

(1)

1998 p.30; i gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1). Mae adran 1(5) a (7) ac Atodlen 1 yn cael effaith mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1999/1619, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3185 (Cy.43), O.S. 2003/389 (Cy.51) ac O.S. 2007/812 (Cy.69). Back [3]

(4)

2002 p.32. Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy.173) yw'r Rheoliadau sydd mewn grym o dan adran 132(1) adeg gwneud y Rheoliadau hyn. Back [4]

(5)

2006 p.47. Back [5]



BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2009/wsi_20091352_we_1.html