BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau D&#373r Mwynol Naturiol, D&#373r Ffynnon a D&#373r Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041509w.html

[New search] [Context] [Printable version] [Help]



2004 Rhif1509 (Cy.158)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 15 Mehefin 2004 
  Yn dod i rym
  Ac eithrio rheoliadau 5, 8(2), 11(a) a 12(2) 19 Mehefin 2004 
  Rheoliadau 5, 8(2), 11(a) a 12(2) 1 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1), 17(1), 26(1)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (CE) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Diwygio) (Cymru) 2004 a byddant yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod daw'r rheoliadau hyn i rym ar 19 Mehefin 2004.

    (3) Daw Rheoliadau 5, 8(2), 11(a) a 12(2) i rym ar 1 Gorffennaf 2004.

Diwygiadau i Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999
     2. Diwygir Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999[4] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru yn unol â rheoliadau 3 i 14.

     3.  - (1) Yn rheoliad 2 paragraff (1) ar ôl y diffiniad o "the Agency" rhodder y diffiniad canlynol - 

    (2) Yn rheoliad 2 paragraff (1) ar ôl y diffiniad o "Directive 98/83" mewnosoder  - 

     4. Yn rheoliad 7 is-adran (1) yn lle paragraff (a) rhodder  - 

     5. Ar ôl rheoliad 7 mewnosoder  - 

     6. Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder  - 

     7. Yn lle rheoliad 10 paragraff (3) rhodder  - 

     8.  - (1) Yn rheoliad 10(5)(b), ar ôl "has undergone any of the treatments referred to in paragraph (3)(a)" rhodder y geiriau "or (b)".

    (2) Yn rheoliad 10(5)(
c) hepgorer y gair "or" ac ar ddiwedd is-baragraff (d) ychwaneger  - 

     9. Yn rheoliad 11(1) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer y gair "and" ac ar ddiwedd is-baragraff (e) rhodder y canlynol  - 

     10. Ar ôl rheoliad 11 mewnosoder  - 

     11. Yn rheoliad 17  - 

     12.  - (1) Yn rheoliad 18, ar ôl is-baragraff (3) ychwaneger y canlynol  - 

    (2) Yn rheoliad 18, ar ôl is-baragraff (4) ychwaneger y canlynol  - 

     13.  - (1) Yn Atodlen 1 Rhan I paragraff 2, is-baragraff (c), ar ôl y geiriau "contains no substance" hepgorer gweddill yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder y geiriau canlynol  - 

    (2) Yn Atodlen 1 Rhan II paragraff 2, is-baragraff (c), ar ôl y geiriau "contains no substance" hepgorer gweddill yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder y geiriau canlynol  - 

     14. Ar ôl Atodlen 4 ychwaneger Atodlenni 5, 6 a 7 a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau canlyniadol
     15.  - (1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990[5] (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) diwygir y cyfeiriad yn yr ail golofn, gyferbyn â'r cyfeiriad yn y golofn gyntaf at Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru er mwyn darllen "S.I. 1999/1540 as amended by S.I. 2000/656, S.I. 2003/3042 (W.287) and S.I. 2004/ 1509 (W.158)".

    (2) Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd yn Gyffredinol 1995[6] ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o "water", ar ôl y geiriau "as amended by the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Amendment) (Wales) Regulations 2003" rhodder y geiriau "and the Natural Mineral Water, Spring Water and Bottled Drinking Water (Amendment) (Wales) Regulations 2004".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mehefin 2004



ATODLEN
Rheoliad 14


MAE ATODLENNI 5, 6 A 7 I'W HYCHWANEGU AT REOLIADAU Dŵr MWYNOL NATURIOL, Dŵr FFYNNON A Dŵr YFED WEDI'I BOTELU 1999




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu
Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40 sy'n sefydlu'r rhestr, terfynau crynodiad a gofynion labelu ar gyfer cyfansoddion dyfroedd mwynol naturiol a'r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogwyd gan osôn i drin dyfroedd mwynol naturiol a dyfroedd ffynhonnau. Maent yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu 1999.

     2. Mae'r Rheoliadau yn gwneud y canlynol - 

     3. Cafodd Arfarniad Rheoliadol llawn ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â Nodyn Trosi sy'n dweud sut y mae prif elfennau'r ddeddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o'r Ddeddf Safonau Bwyd.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 1999/1540, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656 ac O.S. 2003/3042 (Cy. 287).back

[5] O.S. 1990/2463; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[6] O.S. 1995/1763; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090956 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 25 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041509w.html